Senedd Cymru 
 Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
 Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd 
 Ymgynghoriad
 Tachwedd 2023

 

 

 

 

 

 


Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) yn cynnal ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd a’r potensial i’w gryfhau.

Mae sawl ffordd y mae Aelodau unigol o'r Senedd yn cael eu dwyn i gyfrif:

§    Ar ôl cael ei ethol, mae Aelod yn atebol i’w etholwyr ac yn y pen draw, bydd Aelod sy’n sefyll i gael ei ailethol yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y cyhoedd ym mhob etholiad.

§    Gall Aelodau gael eu hanghymhwyso a’u diswyddo yn ystod tymor y Senedd am resymau penodedig gan gynnwys os cânt eu dyfarnu’n euog o drosedd a chael dedfryd o 12 mis neu ragor yn y carchar.

§    Disgwylir i’r Aelodau hefyd fodloni’r safonau ymddygiad a’r rheolau a nodir yng Nghod Ymddygiad y Senedd, a gallant wynebu sancsiynau am dorri’r rheolau hyn.

§    Fodd bynnag, nid oes darpariaeth i'r Senedd ei hun argymell cael gwared ag Aelod yn ystod tymor y Senedd.

Yn ystod gwaith craffu’r Senedd ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei wahodd i ystyried ffyrdd o gryfhau atebolrwydd unigol Aelodau gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, yng ngoleuni’r dystiolaeth a ddaeth i law. Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi gwahodd y Pwyllgor yn benodol i ystyried cyflwyno proses adalw a sut i reoleiddio Aelodau ac ymgeiswyr sy'n ceisio twyllo, yn dilyn y trafodion ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig.

Bydd y Pwyllgor yn ceisio cyflwyno ei gasgliadau i’r Senedd gyda’r bwriad o lywio unrhyw gynigion deddfwriaethol y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno cyn etholiadau 2026.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar opsiynau posibl ar gyfer gwella atebolrwydd Aelodau, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:

§    Cyflwyno mecanwaith ar gyfer adalw Aelodau (rhyw fath o bleidlais gyhoeddus yn yr ardaloedd perthnasol rhwng etholiadau sy’n rhoi opsiwn i etholwyr ddiswyddo Aelod o’r Senedd pan gaiff cwyn am gamymddwyn ei chadarnhau);

§    Rhesymau pam y gall Aelodau gael eu hanghymhwyso yn ystod tymor Senedd;

§    Rhinweddau cyflwyno trosedd o dwyll;

§    Cynyddu’r sancsiynau sydd ar gael ar gyfer achosion o dorri’r Cod Ymddygiad.

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn erbyn dydd Gwener 27 Medi 2024. Cyflwynwch eich ymateb yn Gymraeg neu Saesneg, drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Mae rhestr o dermau allweddol a ddefnyddir yn yr ymgynghoriad wedi’i chynnwys yn Atodiad A.

Mae rhestr o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor a thrafodion eraill y Senedd sy'n ymwneud â'r materion hyn wedi'i chynnwys yn atodiad B.

Datgelu gwybodaeth

Cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth. Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o'r polisi hwn trwy gysylltu â Chlerc y Pwyllgor (0300 200 6565) neu SeneddSafonau@senedd.cymru

Cynnwys

Cefndir 4

Dulliau adalw.. 4

Trefniadau anghymhwyso.. 4

Safonau a ddisgwylir gan Aelodau.. 5

Dulliau adalw.. 6

Rhesymau dros adalw.. 6

Llofnodi deiseb.. 7

Hyd y broses adalw.. 8

System i Gymru.. 9

Anghymhwyso. 11

Gwneud datganiadau ffug neu dwyllodrus gan Aelodau ac ymgeiswyr. 12

Adalw ac anghymhwyso fel sancsiynau. 15

Sancsiynau i ddiswyddo Aelod.. 16

Atodiad A: Geirfa Termau Allweddol 17

Atodiad B: Rhestr o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor a thrafodion perthnasol eraill y Senedd  19

 

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o'r Senedd - Ymgynghoriad

Cefndir

1.        Yn ystod ei waith craffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), argymhellodd y Pwyllgor Biliau Diwygio y dylai Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd Aelodau unigol, gan gynnwys ystyried trefniant adalw, trefniadau anghymhwyso a'r sancsiynau sydd ar gael i'r Pwyllgor pan gaiff cwyn yn erbyn Aelod ei chadarnhau.

Dulliau adalw

2.        Dulliau adalw yw’r modd y gall gwleidydd etholedig gael ei ddiswyddo gan ei etholwyr rhwng etholiadau.

3.        Senedd y DU oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yn 2015. Os bodlonir rhai amodau, bydd gan bleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol chwe wythnos i lofnodi "deiseb adalw" os ydynt yn dymuno i'w Aelod Seneddol gael ei ddiswyddo o'i sedd. Os bydd o leiaf 10 y cant o’r etholwyr cofrestredig cymwys yn llofnodi’r ddeiseb, cynhelir is-etholiad yn yr etholaeth honno drwy system etholiadol y Cyntaf i'r Felin. Caiff yr AS sydd wedi’i adalw sefyll yn yr isetholiad.

4.        O 2026 ymlaen, bydd Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol yn gyfangwbl drwy system cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig o ganlyniad i newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru a wnaed gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Os bydd dull adalw yn cael ei fabwysiadu gan y Senedd, yna rhaid iddo gael ei ddylunio yn unol â'r system etholiadol newydd. Ni fydd darpariaeth ar gyfer is-etholiad yn digwydd o ganlyniad i swyddi gwag yn ystod tymor y Senedd, gyda sedd wag yn cael ei llenwi gan y person nesaf ar y rhestr.

Trefniadau anghymhwyso

5.        Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006, yn nodi’r amgylchiadau ar gyfer pan fydd person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd.

6.        Cafodd cynnig i gyflwyno trosedd o dwyll ei drafod gan yr Aelodau yn ystod y trafodion ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ac yna’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

7.        Fel rhan o'i ymrwymiad yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), ar 13 Mawrth 2024, ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Pwyllgor[1] i dynnu ei sylw at y gwelliant a gyflwynwyd yn ymwneud ag anghymhwyso Aelodau a gafwyd yn euog o'r drosedd o dwyll, a gyflwynwyd gan Adam Price AS, a gwahoddodd y Pwyllgor i archwilio anghymhwyso fel rhan o'i ymchwiliad i gryfhau atebolrwydd Aelodau unigol. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n rhan o’i waith.

8.        Ym mis Mai, diwygiwyd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn ystod cyfnod 2 i newid y meini prawf ar gyfer anghymhwyso fel y byddai Aelod o'r Senedd neu ymgeisydd mewn etholiad Senedd a gafwyd yn euog o drosedd twyll yn cael ei anghymhwyso am gyfnod o bedair blynedd. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol, er na fyddai’n cefnogi’r gwelliant, gyfeirio at waith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ystyried anghymhwyso.

9.        Cafodd y gwelliant ei ddileu yng nghyfnod 3 y Bil ond ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno deddfwriaeth cyn 2026, gan nodi:

“bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o dwyllo’n fwriadol drwy broses farnwrol annibynnol, a bydd yn gwahodd y Pwyllgor i wneud cynigion i’r perwyl hwnnw.”[2]

Safonau a ddisgwylir gan Aelodau

10.     Yn ystod tymor y Senedd, disgwylir i’r Aelodau fodloni’r safonau ymddygiad a’r rheolau a nodir yng Nghod Ymddygiad y Senedd, sy’n berthnasol bob amser. Mae’r cod hwn yn nodi 8 egwyddor – yn seiliedig ar egwyddorion bywyd cyhoeddus a elwir yn egwyddorion ‘Nolan’, ynghyd ag egwyddor ychwanegol ‘parch’ - sy’n nodi’n glir y disgwyliadau ar yr Aelodau. Mae 24 o reolau ymddygiad penodol hefyd yn y Cod sy’n gymwys i Aelodau bob amser. Gellir gwneud cwynion am achosion posibl o Aelod yn torri’r safonau hyn i Gomisiynydd Safonau annibynnol y Senedd sydd â’r pŵer i ymchwilio i gwynion ac sy’n rhoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd.

11.     Yna mae'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau hyn ac os canfyddir ei fod wedi torri’r rheolau, mae'n adrodd i'r Senedd. Caiff y Pwyllgor ddewis argymell y dylid cosbi Aelod, ar ffurf gwaharddiad neu dynnu hawliau a breintiau penodol yn ôl fel Aelod o’r Senedd. Rydym yn archwilio a ddylai sancsiynau newydd fod ar gael i'r Pwyllgor ac a ddylai’r ystod bresennol o sancsiynau gael eu codio a'u hailddatgan.

Dulliau adalw

12.     Dulliau adalw yw’r modd y gall gwleidydd etholedig gael ei ddiswyddo gan ei etholwyr rhwng etholiadau os bodlonir rhai amodau penodol.

13.     Mae'r Pwyllgor wedi clywed ystod o dystiolaeth yn gyffredinol i gefnogi model Tŷ'r Cyffredin ar gyfer adalw. Fodd bynnag, mae nifer o wahaniaethau sylweddol rhwng y Senedd a Thŷ'r Cyffredin y bydd angen eu hystyried yn ystod unrhyw ystyriaethau ynghylch system i Gymru.

14.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar:

§    A yw'r pŵer i ddiswyddo Aelod o'r Senedd yn ystod tymor y Senedd pan gadarnhawyd cwyn ynghylch camymddwyn yn bwysig i chi, a'r rheswm dros eich ateb.

15.     Mae'r cwestiynau canlynol yn yr adran hon yn seiliedig ar oblygiadau ymarferol adalw. Os nad ydych yn ystyried bod angen system adalw, nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn.

Rhesymau dros adalw

16.     Yn Nhŷ'r Cyffredin, mae tri rheswm dros adalw:

§    Mae’r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi cael euogfarn o drosedd ac wedi cael ei ddedfrydu i gael ei garcharu neu ei gadw am gyfnod o lai na 12 mis (gan gynnwys dedfryd ohiriedig).

§    Yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau, mae Tŷ'r Cyffredin yn gorchymyn atal yr Aelod Seneddol o’r Tŷ am gyfnod penodedig o leiaf 10 diwrnod eistedd (neu 14 diwrnod calendr).

§    Mae'r Aelod Seneddol, ar ôl dod yn Aelod, wedi'i gael yn euog o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â chefnogi hawliad am lwfansau o dan adran 10 o Ddeddf Safonau Seneddol 2009 (os yw'n darparu gwybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn perthynas â chefnogi hawliad am lwfansau).

17.     Clywodd y Pwyllgor fod ystyriaeth yn cael ei rhoi yn yr Alban, drwy Fil Aelod o'r meinciau cefn, i gyflwyno sail dros adalw os nad yw Aelod yn cymryd rhan yn nhrafodion Senedd yr Alban am gyfnod o chwe mis neu fwy heb reswm da, fel salwch.

18.     Ystyriodd y Pwyllgor hefyd a ddylai Aelodau sy'n 'croesi'r llawr' - h.y. gadael un blaid wleidyddol i ymuno ag un arall yn ystod Senedd fod yn destun deiseb adalw. Cafwyd ymatebion cymysg i'r mater hwn gan dystion, ond roedd y mwyafrif yn gwrthwynebu.

19.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion canlynol wrth ddatblygu gweithdrefn adalw ar gyfer y Senedd:

·         Ai gwaharddiad o 10 diwrnod eistedd yw'r hyd priodol i sbarduno proses adalw neu a ddylai fod yn uwch, yn is, neu o fewn ystod penodol;

·         A ddylai camddefnyddio treuliau neu lwfansau (torri Rheol 9 o'r Cod Ymddygiad) sbarduno gweithdrefn adalw, o bosibl;

·         A ddylai newid pleidiau gwleidyddol, hynny yw, symud o blaid A i blaid B o fewn tymor Senedd sbarduno gweithdrefnau adalw;

·         A ddylai diffyg presenoldeb a pheidio â chymryd rhan mewn trafodion heb reswm da am gyfnod o chwe mis neu fwy sbarduno gweithdrefnau adalw;

·         A ddylai Aelod a gafwyd yn euog o drosedd gyda dedfryd lai na’r hyn a fyddai’n ei anghymhwyso’n awtomatig fod yn destun deiseb adalw (gweler paragraff 17);

·         Unrhyw feysydd eraill a ddylai sbarduno proses adalw.

Llofnodi deiseb

20.     Mae'n bwysig bod pleidleiswyr cymwys sy'n llofnodi deiseb adalw yn teimlo eu bod yn gallu mynegi eu barn yn rhydd.

21.     Yn system Tŷ'r Cyffredin, dim ond os ydynt o blaid adalw’r Aelod Seneddol y mae pleidleiswyr cymwys yn arwyddo'r ddeiseb. Ystyr hyn yw nad oes opsiwn i bleidleiswyr ddangos cefnogaeth i'r Aelod Seneddol aros yn ei swydd, ac wrth fynd i orsaf bleidleisio, mae eu bwriad i arwyddo'r ddeiseb yn hysbys i eraill. Mynegwyd pryderon gyda'r Comisiwn Etholiadol y gallai'r diffyg cyfrinachedd fod wedi atal rhai etholwyr rhag arwyddo deiseb mewn proses Adalw flaenorol.[3]

22.     Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi awgrymu i Dŷ'r Cyffredin y dylid ystyried a ddylai etholwyr cymwys gael yr opsiwn i gwblhau deiseb cyfwerth â'r ddalen lofnodi i nodi eu bod yn gwrthwynebu'r ddeiseb.[4] Ar gyfer y ddwy ddeiseb yn 2019, nid oedd y Comisiwn Etholiadol yn ymwybodol o unrhyw gwynion am gyfrinachedd y mannau llofnodi.[5]

23.     Yn Nhŷ'r Cyffredin, y trothwy llofnodion ar gyfer adalw Aelod Seneddol yw 10 y cant. Os bydd 10 y cant o’r etholwyr cofrestredig cymwys yn llofnodi deiseb adalw, cynhelir is-etholiad yn yr etholaeth honno a chaiff yr Aelod sy’n gadael sefyll yn yr etholiad hwnnw os yw’n dymuno gwneud hynny. Mae Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi amlygu, pe gallai'r trothwy gael ei osod ar yr un lefel (10 y cant) ar gyfer gweithdrefn adalw'r Senedd, o ystyried na fydd system y Senedd yn arwain at is-etholiad, gallai 10 y cant o'r etholwyr gael gwared ag Aelod yn uniongyrchol.[6] Yng ngoleuni'r ystyriaeth hon, rydym yn casglu safbwyntiau ar y trothwy priodol ar gyfer adalw neu ddiswyddo Aelod yn y Senedd.

24.     Fel mewn etholiad, gall pleidleiswyr cymwys lofnodi deiseb adalw ar gyfer Tŷ'r Cyffredin mewn man llofnodi dynodedig (tebyg i orsaf bleidleisio) neu drwy'r post neu drwy benodi rhywun fel dirprwy i bleidleisio ar eu rhan. Mae’r Pwyllgor yn gofyn am safbwyntiau ynghylch a ddylai’r Senedd ganiatáu i etholwyr bleidleisio drwy'r post neu drwy benodi rhywun fel dirprwy i bleidleisio ar eu rhan.

25.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich safbwyntiau ar y cwestiynau a ganlyn, os defnyddir deiseb adalw:

·         A ddylai’r ddeiseb adalw gynnwys opsiwn ar gyfer dangos cefnogaeth i’r Aelod sy’n cael ei adalw gadw ei sedd;

·         Pa drothwy llofnodion ddylai fod ei angen er mwyn i ddeiseb fod yn llwyddiannus.

·         A ddylai etholwyr fod yn gallu pleidleisio drwy'r post neu benodi rhywun fel dirprwy i bleidleisio ar eu rhan. 

Hyd y broses adalw

26.     Yn Nhŷ'r Cyffredin, os yw gweithredoedd Aelod Seneddol yn bodloni'r amodau adalw (gweler paragraff 8), gwneir trefniadau fel bod gan etholwyr cymwys 6 wythnos i lofnodi deiseb adalw yn yr etholaeth berthnasol.

27.     Mae data gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos, ar gyfer deisebau adalw blaenorol yn Nhŷ'r Cyffredin, fod y mwyafrif o bobl a lofnododd y ddeiseb wedi gwneud hynny yn gynnar yn y cyfnod llofnodi chwe wythnos.[7] Clywodd y Pwyllgor bryderon hefyd nad yw hyd y ddeiseb yn effeithio ar leoliad y mannau dynodedig gan nad yw lleoedd fel ysgolion a ddefnyddir fel arfer mewn etholiadau ar gael.

28.     Hoffem gael barn ynghylch a ddylai'r amser sydd ar gael i lofnodi deiseb fod yn fyrrach i'r Senedd. Un posibilrwydd fyddai i'r ddeiseb agor ar un diwrnod, ar draws nifer fwy o ardaloedd dynodedig, gydag oriau agor hirach, yn hytrach na thros gyfnod llofnodi aml-wythnos mewn llai o ardaloedd dynodedig. Fel arall, gallai nifer yr wythnosau i lofnodi'r ddeiseb fod yn fyrrach, er enghraifft, pedair wythnos, fel sydd wedi’i awgrymu gan y Comisiwn Etholiadol fel dewis amgen[8].

29.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich safbwyntiau ar y cwestiynau a ganlyn:

·         A ddylai’r ddeiseb adalw agor ar un diwrnod, ar draws nifer fwy o ardaloedd dynodedig, neu dros gyfnod llofnodi aml-wythnos mewn llai o ardaloedd dynodedig? Os bydd y ddeiseb ar agor am gyfnod llofnodi aml-wythnos, am faint y dylai fod ar agor.

·         Unrhyw ystyriaethau cysylltiedig eraill sy'n ymwneud â ffyrdd y gall etholwyr gael mynediad at y broses neu gymryd rhan ynddi?

System i Gymru

30.     Mae'r Pwyllgor wedi nodi'r prosesau adalw posibl canlynol a allai weithredu yn y Senedd:

    i.          Opsiwn 1: Mae deiseb adalw yn cael ei chynnal yn gofyn a ddylid adalw'r Aelod. Os bydd Aelod yn cael ei adalw, byddai'r ymgeisydd nesaf o restr y blaid yr etholwyd yr Aelod a gafodd ei ethol arni yn llenwi'r sedd wag. Mae'r dull hwn yn golygu y byddai llofnodi'r ddeiseb yn cael gwared â'r Aelod, yn hytrach nag arwain at is-etholiad yn yr etholaeth honno. Byddai cymesuredd canlyniad yr etholiad diwethaf yn cael ei gynnal a gellid llenwi swyddi gwag yn gyflym. Ni fyddai Aelodau Annibynnol yn cael eu disodli.

   ii.          Opsiwn 2: Mae deiseb diswyddo a disodli yn cael ei chynnal, a fyddai'n rhoi opsiwn naill ai i gadw'r Aelod presennol neu ei ddiswyddo a phenodi’r ymgeisydd nesaf ar restr y blaid yn ei le. Byddai hyn yn amodol ar gyfnod ymgyrchu a rhoi cyfle i'r Aelod sy'n destun y broses 'adalw' amddiffyn ei sedd gyda'r etholwyr. Byddai cymesuredd y Senedd yn cael ei gynnal. Ni fyddai Aelodau Annibynnol yn cael eu disodli.

31.     Byddai'r Pwyllgor yn croesawu:

·         Eich barn ar y ddau opsiwn a gynigir uchod;

·         A oes system amgen y gellid ei harchwilio.


 

Anghymhwyso

32.     Mae'n rhaid i ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Senedd fodloni'r cymwysterau angenrheidiol i sicrhau nad ydynt wedi'u hanghymhwyso. O dan Adran 16 ac atodlen 1A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae person wedi’i anghymhwyso rhag bod yn Aelod o dan yr amodau a ganlyn:

§    Mae o dan 18 mlwydd oed;

§    Nid yw'n bodloni meini prawf dinasyddiaeth;

§    Mae wedi'i ddatgan yn fethdalwr;

§    Mae wedi'i gael yn euog o arferion llwgr neu anghyfreithlon mewn etholiadau;

§    Mae wedi cael ei garcharu neu ei gadw yn dilyn euogfarnau (dedfryd o 12 mis o leiaf); neu

§    Mae wedi bod yn destun gorchmynion o dan Ran 2 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003

§    Mae’n Aelod o ddeddfwrfeydd eraill y DU

§    Mae’n dal swydd anghymwys.

33.     Os caiff Aelod o'r Senedd ei anghymhwyso, mae'r person hwnnw'n peidio â bod yn Aelod ac mae ei sedd yn dod yn wag.

34.     Hoffem hefyd ofyn am farn ynghylch os yw Aelod, ar ôl cael ei ethol, wedi cael ei garcharu neu ei gadw yn y ddalfa yn dilyn euogfarnau o ddedfryd 6 mis, a ddylai hyn fod yn sail dros anghymhwyso awtomatig yn y Senedd, fel sy'n wir ar hyn o bryd ar gyfer dedfrydau dros 12 mis.[9]

35.     Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn darparu amod newydd ar gyfer anghymwyso: bod unigolyn nad yw wedi'i gofrestru ar gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yng Nghymru yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad i'r Senedd. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed a oes unrhyw amgylchiadau eraill lle dylid anhymhwyso Aelod.

36.     Ymdrinnir â materion yn ymwneud â thwyll yn yr adran nesaf.

37.     Byddai'r Pwyllgor yn croesawu clywed eich barn ar y canlynol:

·         Hyd y ddedfryd o garchar a ddylai ysgogi anghymhwyso;

·         Heblaw am dwyll, yr ymdrinnir ag ef yn yr adran nesaf, a oes unrhyw feysydd eraill a ddylai arwain at anghymhwyso rhag aelodaeth o'r Senedd?

Gwneud datganiadau ffug neu dwyllodrus gan Aelodau ac ymgeiswyr

38.     Roedd un maes y clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ei gylch yn ymwneud ag anghymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr rhag cael eu hethol i’r Senedd gan eu bod wedi gwneud datganiadau ffug neu dwyllodrus.

39.     Byddai Aelodau ac ymgeiswyr yn agored i gael eu anghymhwyso pan fyddant yn gwneud, cyhoeddi neu ganiatáu i ddatganiad y maent yn gwybod ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus gael ei gyhoeddi ar eu rhan er mwyn camarwain ‘yn fwriadol’, a ‘chyda’r bwriad o gamarwain’, wrth weithredu yn eu rôl fel Aelod neu fel ymgeisydd i fod yn Aelod.

40.     Yn ystod cyfnodau deddfwriaethol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), cyflwynwyd gwelliannau a fyddai wedi creu trosedd newydd fwriadol i gamarwain, gwneud neu gyhoeddi datganiad y gwyddys ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus, yn fwriadol. O dan y gwelliannau arfaethedig, byddai troseddwyr yn cael eu gwahardd rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad Senedd am gyfnod o bedair blynedd. Ni chyrhaeddodd y gwelliannau gyfnodau terfynol y biliau, ond roedd cefnogaeth ar ran yr Aelodau i'r egwyddor gyffredinol o ddwyn Aelodau i gyfrif am wneud datganiadau ffug neu dwyllodrus. Yn ystod y ddadl ar Gyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol y datganiad a ganlyn:

“bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o dwyllo’n fwriadol drwy broses farnwrol annibynnol, a bydd yn gwahodd y Pwyllgor i wneud cynigion i’r perwyl hwnnw.”[10]

41.     Mae'r Cod Ymddygiad Aelodau o’r Senedd eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau fod yn onest. Rheol 2 o God Ymddygiad yr Aelodau yw: “Rhaid i Aelodau weithredu'n onest”. Mae’r Canllaw i’r Cod Ymddygiad yn egluro ymhellach:

Ni fyddai celwydd golau (e.e. honni ei fod yn 'iawn' pan fydd Aelod wedi blino mewn gwirionedd) neu ryw ddiffyg gwirionedd arall, yn cael ei ystyried yn achos o dorri'r Rheol hon. Yn yr un modd, er y disgwylir i Aelodau wirio ffeithiau’n rhesymol a gwirio eu honiadau, mae’n anochel y bydd datganiadau 'anghywir, ond wedi'u gwneud yn onest,' yn digwydd o bryd i'w gilydd. Er enghraifft, gallai Aelod gamddyfynnu ffigur ariannol yn anfwriadol (“£60,000” yn hytrach na “£600,000”). Ar yr amod bod yr Aelod wedi cywiro’r gwall cyn gynted â phosibl, mae cwynion o'r fath yn debygol o gael eu hystyried yn wamal neu'n flinderus.

Byddai cwyn fel arfer yn seiliedig ar gelwydd honedig. Ymhlith pethau eraill, mae sylwedd canlyniadau celwydd yn debygol o fod yn ffactor wrth bennu cosb am ymddygiad o'r fath. [11]

42.     Felly, hoffai'r Pwyllgor ystyried y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol o fynd i’r afael â datganiadau ffug neu dwyllodrus. Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor yn ystyried y tri opsiwn canlynol ac mae'n agored i awgrymiadau eraill:

i.           Opsiwn 1: Creu trosedd o dwyll, y bydd yr heddlu yn ymchwilio iddi a'i rhoi ar brawf gerbron y llysoedd troseddol.

         iii.             Opsiwn 2: Defnyddio corff ymchwiliol presennol, fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a Thribiwnlys Cymreig annibynnol, megis Bwrdd Dyfarnu Cymru (os yw'r datganiadau ffeithiol ffug neu dwyllodrus i fod yn fater o gosb sifil).

        iv.             Opsiwn 3: Cryfhau'r Cod Ymddygiad presennol (Rheol 2), yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, i wahardd dweud celwydd neu dwyll sy’n fwy amlwg yn fwriadol a chryfhau'r sancsiynau y gellid eu cymhwyso. Ymdrinnir â’r rhain o hyd drwy fecanweithiau Comisiynydd Safonau y Senedd a byddent yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Senedd.

Fodd bynnag, ni fyddai'r ffordd hon o wneud penderfyniadau yn briodol pe baiyn cael ei benderfynu y dylid cynnwys yr ymgeiswyr, yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd, o fewn cwmpas y drosedd. Os felly, byddai'n rhaid ymestyn awdurdodaeth Comisiynydd Safonau'r Senedd er mwyn ymdrin ag ymgeiswyr yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd. Ar ben hynny, pe bai awdurdodaeth y Comisiynydd yn ymestyn i ymgeiswyr, mae'n debygol y byddai'n rhaid i'r Comisiynydd adrodd i banel penderfynu annibynnol, efallai rhywbeth tebyg i banel arbenigol annibynnol a ddefnyddir yn San Steffan o dan y cynllun cwynion annibynnol ac sy'n cael ei gadeirio gan uwch farnwr sydd wedi ymddeol.

43.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar:

Egwyddorion cyffredinol

A ydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai fod yn sail dros anghymwyso os gwneir datganiadau ffug neu dwyllodrus gan Aelodau o'r Senedd neu ymgeiswyr i ddod yn Aelodau.

Risgiau ac effaith cwynion maleisus sy'n cael eu gwneud yn erbyn Aelodau a sut y gellid lliniaru risgiau o'r fath.

Y canlyniadau sy'n deillio o waharddiad ar wneud datganiadau ffug neu dwyllodrus a'r amddiffyniadau braint ar gyfer Aelodau a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

·         Materion sy'n ymwneud â hawliau dynol os cyflwynir trosedd neu system sancsiynau sifil, yn enwedig hawliau rhyddid mynegiant (Erthygl 10) a'r rhyddid i sefyll mewn etholiad (Erthygl 3 Protocol Rhif 1 - Hawl i etholiadau rhydd).

·         Y tri opsiwn a nodir ym mharagraff 38 a pha un fyddai'n fwyaf priodol ac effeithiol, neu unrhyw opsiynau eraill yr hoffech eu hawgrymu (nodir cwestiynau manylach isod os ydych am fynd i'r afael â'r materion penodol sy'n ymwneud â'r opsiynau hyn).

 

 

Cwmpas

·         A ddylai Aelod ac ymgeiswyr i ddod yn Aelodau fod o fewn cwmpas trosedd.

Os yw ymgeisydd yn dod o fewn y cwmpas, ar ba bwynt y dylai fod yn ddarostyngedig i atebolrwydd posibl.

 

Opsiwn 1 – trosedd yn dod gerbron y llysoedd troseddol

·         Dylai gwneud datganiad ffug neu dwyllodrus gael ei wneud yn drosedd neu gael ei wneud yn destun sancsiynau sifil;

 

Opsiwn 2 – Trosedd sifil wedi'i dyfarnu drwy broses farnwrol annibynnol

·         Barn ar natur proses farnwrol annibynnol a'r opsiynau a gynigir gan y Pwyllgor uchod ym mharagraff xx.

·         Os bydd y datganiadau ffug neu dwyllodrus sy’n cael eu gwneud yn ddarostyngedig i gosb sifil, pa safon prawf fyddai fwyaf priodol - y safon sifil (h.y. "yn ôl pwysau tebygolrwydd") neu'r safon droseddol (h.y. "y tu hwnt i amheuaeth resymol"). Er nad yw'n gyffredin, bu achosion lle mae cyrff disgyblu proffesiynol wedi gweithredu i'r safon droseddol.

 

Opsiwn 3 – cryfhau'r Cod Ymddygiad a'r gweithdrefnau safonau presennol

·         Pa fesurau a mecanweithiau eraill a allai fynd i'r afael â thwyll neu ddatganiadau ffug. Er enghraifft, drwy weithdrefnau safonau presennol neu fecanweithiau adalw posibl.

 

 

Cosbau neu sancsiynau, gan gynnwys anghymhwyso

·         O ystyried anghymhwyso fel dedfryd droseddol neu gosb sifil, beth fyddai hyd priodol y cyfnod anghymhwyso? A ddylai fod cyfnod penodol o anghymhwyso, neu gyfnod (o fewn ystod benodol) i'w bennu fesul achos, fel bod unrhyw amgylchiadau lliniaru a allai leihau'r cyfnod o anghymhwyso yn cael eu hystyried?

Pa sancsiynau heblaw anghymhwyso a allai fod yn gosb briodol am wneud datganiadau ffug neu dwyllodrus?

 

Materion cyffredinol

·         Pa amddiffynfeydd ddylai fod ar gael ar gyfer honiad o dwyll.

·         Y rhyngweithio rhwng trafodion ar gyfer gwneud datganiadau ffug neu dwyllodrus (boed yn sifil neu'n droseddol) a'r rheolau a nodir yng Nghod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd sydd eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau weithredu'n onest bob amser.

 

·         Barn am y goblygiadau adnoddau ar gyfer cyrff presennol neu gyrff y gellid eu creu i ymchwilio i gwynion o ddatganiadau ffug neu dwyllodrus o ffaith a phenderfynu arnynt.

 

 

 

Adalw ac anghymhwyso fel sancsiynau

44.     Comisiynydd Safonau y Senedd sy’n ymchwilio i honiadau o dorri’r Cod Ymddygiad ac mae’n rhoi’r canfyddiadau i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yna mae'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau hyn ac os canfyddir bod y rheolau wedi’u torri, gall argymell cosb i’r Senedd, y mae’r Senedd yn penderfynu arno wedi hynny. Y sancsiynau sydd ar gael i’r Senedd ar hyn o bryd mewn achosion o gamymddwyn yw:

§    y dylid gwahardd yr Aelod o drafodion y Senedd naill ai'n gyffredinol neu'n benodol - er enghraifft, o drafodion cyfarfodydd penodol y Senedd neu ei phwyllgorau - am gyfnod i’w bennu yn y cynnig ar gyfer gwahardd, yn unol â’r Rheolau Sefydlog;

§    y dylai hawliau a breintiau penodol aelodaeth o’r Senedd gael eu tynnu’n ôl oddi ar yr Aelod dan sylw, gan gynnwys:

                          i.          tynnu yn ôl hawl mynediad fel Aelod i ystâd y Senedd;

                         ii.          gwaharddiad o weithgareddau eraill y byddai gan yr Aelod hawl i fynd iddynt fel arfer;

                        iii.          tynnu breintiau cynrychioliadol a seremonïol a breintiau cysylltiedig a fyddai gan Aelod fel arfer. 

45.     Nid oes pŵer i ddiswyddo unigolyn o’r Senedd yn gyfan gwbl. Pan ystyrir bod hynny’n briodol, gellir defnyddio unrhyw gyfuniad o’r sancsiynau uchod.

Sancsiynau i ddiswyddo Aelod

46.     Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ynghylch a ddylai fod sancsiynau ychwanegol ar gael i'w hargymell mewn achosion difrifol iawn (a allai gynnwys materion fel twyll), gan gynnwys:

           i.             Cosb adalw: Gall y Pwyllgor gael y grym i argymell bod Aelod yn cael ei wneud yn destun adalw. Byddai hyn yn creu cosb unigol i sbarduno gweithdrefnau adalw, yn hytrach nag atal am nifer penodol o ddiwrnodau.

          ii.             Cosb anghymhwyso: Gall y Pwyllgor gael y grym i argymell bod Aelod yn cael ei anghymhwyso. Byddai hyn yn golygu, pe bai achosion difrifol iawn o dorri rheolau nad ydynt yn sbarduno'r amodau presennol ar gyfer anghymhwyso, y gallai'r Pwyllgor argymell anghymhwyso’r Aelod.

47.     Byddai unrhyw sancsiynau yn galw am gymeradwyaeth drwy fwyafrif yn y Senedd.

48.     Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar:

·         A ddylai’r Pwyllgor gael y grym i argymell sancsiynau anghymhwyso neu adalw i Aelod o’r Senedd?

·         A ddylai unrhyw sancsiynau eraill fod ar gael i'r Pwyllgor?


 

Atodiad A: Geirfa Termau Allweddol

Cynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig

Math o system etholiadol lle mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o'u hymgeiswyr ar gyfer etholaethau aml-aelod. Caiff yr ymgeiswyr buddugol eu cymryd o'r rhestrau yn nhrefn eu safle, a dyrennir seddi'n gymesur gan ddefnyddio fformiwla. Dyma'r system fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau i'r Senedd o 2026.

Cod ymddygiad

Mae Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd yn darparu rheolau a chanllawiau i bob Aelod ynglŷn â'r safonau ymddygiad y disgwylir iddynt gadw atynt wrth gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau a'u dyletswyddau cyhoeddus. Rhaid i’r holl Aelodau o'r Senedd gydymffurfio â'r Cod.

Anghymhwyso

Mae unigolion sy'n bodloni meini prawf penodol yn cael eu gwahardd rhag bod yn Aelodau o'r Senedd a/neu'n ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol i'r Senedd. Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol ganllawiau ar y meini prawf anghymhwyso a ddefnyddiwyd ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd.

Datganiadau ffug neu dwyllodrus

Mae person yn gwneud, cyhoeddi neu ganiatáu i ddatganiad y maent yn gwybod ei fod yn ffug neu'n dwyllodrus gael ei gyhoeddi ar eu rhan er mwyn camarwain ‘yn fwriadol’, a ‘chyda’r bwriad o gamarwain’.

Braint Seneddol

Mae braint seneddol yn rhoi hawliau, pwerau ac imiwnedd arbennig i Aelodau o'r Senedd i'w galluogi i siarad yn rhydd yn nhrafodion y Senedd heb ofni cael eu siwio na'u herlyn. Mae gan Aelodau o'r Senedd hawliau mwy cyfyngedig nag Aelodau Seneddol. Mae’r canllaw cyflym hwn yn edrych ar freintiau yn fwy manwl.

Pleidleisiau drwy’r post

Gall etholwyr wneud cais i bleidleisio drwy'r post os nad ydynt yn credu y byddant yn gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Mae deisebau adalw ar gyfer Tŷ'r Cyffredin yn caniatáu i etholwyr lofnodi deisebau trwy bleidlais bost.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Gall etholwyr wneud cais i rywun maen nhw’n ymddiried ynddo bleidleisio ar eu rhan os ydynt yn gwybod na fyddant yn gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Wrth gwblhau cais, mae angen i'r etholwr roi rheswm pam na all fod yn bresennol. Mae deisebau adalw ar gyfer Tŷ'r Cyffredin yn caniatáu i etholwyr lofnodi deisebau trwy bleidleisio drwy ddirprwy.

Adalw

Proses lle gall cynrychiolwr etholedig gael ei ddiswyddo rhwng etholiadau.

Sancsiynau

Os bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn penderfynu bod Aelod o’r Senedd wedi torri’r cod ymddygiad, caiff y Pwyllgor roi sancsiynau ar yr Aelod hwnnw. Mae’r sancsiynau hyn yn amrywio o ganfod y torrwyd y Cod ond ni ddylid cymryd unrhyw gamau pellach i wahardd yr Aelod o drafodion y Senedd am gyfnod penodol neu dynnu hawliau a breintiau yn ôl oddi ar yr Aelod.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei sefydlu gan y Senedd i drafod materion a nodir o dan Reol Sefydlog 22, yn enwedig unrhyw gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am adolygu’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd, y canllawiau ar y cod a’r gweithdrefnau cwyno, ynghyd â’r rheolau ar gyfer lobïo.

Comisiynydd Safonau y Senedd

Person annibynnol a benodir gan y Senedd i roi cyngor a chymorth yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau yw Comisiynydd Safonau Senedd Cymru. Mae'n ymchwilio'n annibynnol i unrhyw gwynion yn erbyn Aelodau pan fydd y cwynion hynny'n ymwneud â thorri codau, protocolau neu benderfyniadau'r Senedd. Y Comisiynydd Safonau ar hyn o bryd yw Douglas Bain.

Dedfryd ohiriedig o garchar

Mae dedfrydau gohiriedig yn ddedfryd lle nad oes rhaid i'r troseddwr fynd i'r carchar ar yr amod nad yw'n cyflawni unrhyw droseddau pellach ac yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir. Fe'u defnyddir dim ond pan nad yw'r ddedfryd o garchar yn hwy na dwy flynedd. Mae dedfryd ohiriedig yn gosb ac yn rhwystr.

Seddau gwag

Pan fydd Aelod o'r Senedd yn gadael ei sedd rhwng etholiadau, caiff sedd wag ei chreu yn y Senedd. Gallai Aelodau adael eu seddi am amryw o resymau, gan gynnwys os byddant yn marw neu'n ymddiswyddo, neu'n cael eu anghymhwyso.


 

Atodiad B: Rhestr o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor a thrafodion perthnasol eraill y Senedd

Sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

3 Mehefin 2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

·         Sesiwn dystiolaeth 1: Joe Rossiter, Sefydliad Materion Cymreig

·         Sesiwn dystiolaeth 2: Douglas Bain, Comisiynydd Safonau y Senedd.

10 Mehefin 2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

·         Sesiwn dystiolaeth 3: Graham Simpson ASA (preifat).

·         Sesiwn dystiolaeth 4: Yr Athro Jonathan Tongue, Prifysgol Lerpwl (cyhoeddus)

17 Mehefin 2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

·         Sesiwn dystiolaeth 5:Yr Athro Alistair Clark, Prifysgol Newcastle

·         Sesiwn dystiolaeth 6: Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol.

24 Mehefin 2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

·         Sesiwn dystiolaeth 7: – Dr Sam Fowles, Bargyfreithwyr Cornerstone, a Jennifer Nadel, Compassion in Politics.

1 Gorffennaf 2024 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:

·         Sesiwn dystiolaeth 8: Douglas Bain, Comisiynydd Safonau y Senedd

·         Sesiwn dystiolaeth 9: Jane Dodds AS.

 

Dadleuon eraill yn y Senedd sy'n ymwneud ag adalw a thwyll

30 Ebrill 2024 – Ystyriaethau Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

16 Mai 2024 – Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Ystyriaethau Cyfnod 2 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

2 Gorffennaf 2024 – Ystyriaethau Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

 



[1] Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, 13 Mawrth 2024.

[2] Ystyriaeth Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), 3 Gorffennaf 2024

[3] Comisiwn Etholiadol, Report: 2018 recall petition in North Antrim, Gorffennaf 2019

[4] Comisiwn Etholiadol, Written evidence to the House of Commons Committee on Standards, Medi 2023

[5] Comisiwn Etholiadol, the process to challenge a sitting MP: review of the 2019 recall petitions, Hydref 2019

[6] Comisiynydd Safonau, Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio, 4 Rhagfyr 2023

[7] Comisiwn Etholiadol, the process to challenge a sitting MP: review of the 2019 recall petitions, Hydref 2019

[8] Comisiwn Etholiadol, the process to challenge a sitting MP: review of the 2019 recall petitions, Hydref 2019

[9] Mae hyn hefyd yn berthnasol i bobl sydd â dedfryd o garchar lle caiff ei atal am gyfnod o amser ("dedfryd ohiriedig"). Mae dedfrydau gohiriedig yn ddedfrydau o garchar sy'n cael eu gwasanaethu yn y gymuned yn hytrach nag yn y carchar. Er mwyn i rywun gael dedfryd ohiriedig, mae'r llys wedi penderfynu bod trothwy'r ddalfa wedi'i groesi, ac felly wedi gosod cyfnod o garchar. Gellir atal dedfryd o garchar am rhwng chwe mis a dwy flynedd ar yr amod nad oes unrhyw droseddau pellach yn cael eu cyflawni gan y diffynnydd a chydymffurfir â'r holl ofynion llys perthnasol a osodwyd.

[10] Ystyriaeth Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), 3 Gorffennaf 2024

[11] Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o'r Senedd